Mae'r un peth yn wir am "eisiau" - Weithiau rwy'n gweld y gystrawen ffurfiol yn rhy ffurfiol a'r un anffurfiol yn rhy anffurfiol !!
Yn ôl Peter Wynn Thomas: "Defnyddir y gystrawen ansafonol uchod weithiau mewn arddulliau anffurfiol eithr nid yw'r gystrawen newydd wedi ei chyffredinoli i bob cyd-destun gan bawb sy'n ei harfer."
Ond mae 17 mlynedd ers hynny ac mae'r "eithr" yn arwydd o geidwadaeth hyd yn oed bryd hynny!
Serch hynny, mewn testunau ffurfiol, byddwn i'n cadw at y ffurfiol. Yn y testunau lled-ffurfiol mae'r broblem - fel y soniwyd yng ngweithdy Robat Trefor!
Siân
On 2013 Ebrill 3, at 11:11 AM, Catrin Beard wrote:
> Dyna'r ateb roeddwn i'n gobeithio amdano! Diolch Sylvia
> C
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
> Sent: 03 April 2013 10:58
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: angen
>
> Byddwn i'n meddwl ei fod yn hollol dderbyniol. Tydi 'ag angen' ddim yn
> Gymraeg ffurfiol chwaith. Mae'n siwr y dylai rhywun ysgrifennu 'pobl y mae
> arnynt angen gofal a chymorth' ond efallai fod hynny wedi mynd ychydig yn
> rhy ffurfiol erbyn hyn?
>
> (Wedi bod yng ngweithdy Taro'r Cyweiriau Robat Trefor - hynod o ddifyr ac yn
> annog rhywun i ailystyried beth sy'n dderbyniol!)
>
> Sylvia.
>
> Catrin Beard wrote:
>> Ydi hi'n dderbyniol bellach ollwng yr 'ag' yn 'ag angen' e.e. 'pobl
>> sydd angen gofal a chymorth' yn hytrach 'pobl sydd ag angen gofal a
> chymorth'?
>>
>>
>>
>> Mae nifer o ddogfennau Llywodraeth yn ei ddefnyddio, ond...
>>
>>
>>
>> Catrin
>>
>
>
> --
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
> --
> Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
> deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
> cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
> trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os
> na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw
> neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
> safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
> cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y
> neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn
> ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr
> e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae
> rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
> www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and is
> solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
> email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
> If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
> disclose any information contained in this email. Any views or opinions are
> solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor
> University.
> Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are
> free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of
> the text of the email, this email is not intended to form a binding contract
> - a list of authorised signatories is available from the Bangor University
> Finance Office. www.bangor.ac.uk
|