Yn aml iawn, pan fyddaf yn clicio 'Cymraeg' i weld fersiwn Gymraeg o dudalen benodol, mae'r testun Cymraeg fel pe bai wedi'i gywasgu i golofn denau ar ochr dde'r dudalen, ac yn amhosibl ei ddarllen. Yr unig ffordd o'i ddarllen ydy copio'r testun a'i ludo mewn dogfen Word, sy'n dipyn o niwsans. A oes unrhyw aelod arall o'r Cylch wedi cael yr un broblem? Roeddwn i'n meddwl i ddechrau mai'r porwr oedd ar fai, ond mae'r testun Saesneg yn iawn bob tro.
Dyma enghraifft o dudalen o'r fath:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2013/onlinedigitallearning/?lang=en
(Saesneg)
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2013/onlinedigitallearning/?skip=1&lang=cy
(Cymraeg)
Os gewch chi gyfle i agor y tudalennau a rhannu eich profiadau, mi fuasai hynny'n gymorth mawr i mi. Diolch!
|