Wow, mae nhw'n dod o bob cyfeiriad 'wan!
A finnau'n dallt eu bod wedi hen ddarfod!
Diolch un ac oll - 'pren rhaffau' amdani - dwi'n siwr y byddwch i gyd yn
ysu cael ei ddefnyddio ar raddfa ddyddiol o hyn ymlaen!
On 13/03/2013 10:52, Carolyn wrote:
> Mae 'na lun o ddyn yn troi pren rhaffau yn fama - ond llun digon aneglur!
>
> http://www.llennatur.com/oneadmin/photogallery/samplephotogallery.php?catego
> ry_id=102&parent_id=102&photo_id=5093&start=
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd
> Timothy
> Anfonwyd/Sent: 13 Mawrth 2013 10:51
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: Whimbrel
>
> Www! rwan 'te - mae 'na obaith yn fan hyn...
> Ai ar-lein welsoch chi'r llun o'r gyfrol? pa gyfrol o'r 4?!
> Ydi o'n edrych rhywbeth yn debyg i feis fainc ar ei ochr?
>
>
> On 13/03/2013 10:44, Rhian Jones wrote:
>> Does gen i ddim syniad be ydi 'whimbrel' ond 'pren rhaffau' neu 'pren
>> troi rhaffau' ydi enw'r teclyn pren oedd yn cael ei ddefnyddio i droi
>> rhaff wellt. Mae na lun ohono fo yn Cydymaith Byd Amaeth hefyd.
>> Rhian
>>
>> -----Original Message----- From: Sioned Graham-Cameron
>> Sent: Wednesday, March 13, 2013 10:20 AM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Whimbrel
>>
>> Oes gen ti fwy o ddisgrifiad o'r peth o gwbl, ac eithrio teclyn gwneud
>> rhaffau. Dwi wedi bod yn Gwglo ac yn methu cael hyd i ddim, gyda phob
>> cyfeiriad yn son am y 'deryn neu bethau cyfrifiadurol!
>>
>> Oedd o falla yn cael ei alw'n whimbrel oherwydd ei fod yn debyg i big
>> y deryn?
>>
>>
>> Sioned
>>
>>
>> On 13 Mar 2013, at 10:15, Dafydd wrote:
>>
>>> Ail alwad y bore am yr enw hwn, sef...
>>>
>>> - whimbrel - nid yr aderyn bigfain ond yn hytrach ...'teclyn pren i
>>> wneud rhaffau' yng nghyd-destun cefn gwlad.
>>>
>>> Diolch eto am bob cymorth, cyd-gyfieithwyryddionynwyr!:-)
|