Mewn llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef ‘A Glossary of
the Welsh of Glamorgan’ gan Cadrawd (Timothy Christopher Evans)
(geirfa a wnaethpwyd ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Abertawe
1907), ceir ‘Siterdwn’ fel ffurf Gymraeg ar Southerndown.
(Ni wn pa mor ddilys yw’r ffurf hon, neu a oedd yn ffurf gyffredin yn
y Fro ymhlith y werin!)
(Efallai imi ei chamgopïo yn fy llyfr nodiadau flynyddoedd maith yn ôl
yn Aberystwyth, er nad yw’n debyg – all rhywun yng nghyffiniau
Pen-glais ei chadarnhau o ran diddordeb?)
|