Cyfrol 3 t329 dan 'pren rhaffau'. Ydi mae o'n debyg i feis. Dyma'r enwau
sydd o dan y llun - pren gwneud rhaffau, pren rhaffau, pren troell, pren
troi rhaffau + troiwr.
Rhian
-----Original Message-----
From: Dafydd Timothy
Sent: Wednesday, March 13, 2013 10:51 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Whimbrel
Www! rwan 'te - mae 'na obaith yn fan hyn...
Ai ar-lein welsoch chi'r llun o'r gyfrol? pa gyfrol o'r 4?!
Ydi o'n edrych rhywbeth yn debyg i feis fainc ar ei ochr?
On 13/03/2013 10:44, Rhian Jones wrote:
> Does gen i ddim syniad be ydi 'whimbrel' ond 'pren rhaffau' neu 'pren troi
> rhaffau' ydi enw'r teclyn pren oedd yn cael ei ddefnyddio i droi rhaff
> wellt. Mae na lun ohono fo yn Cydymaith Byd Amaeth hefyd.
> Rhian
>
> -----Original Message----- From: Sioned Graham-Cameron
> Sent: Wednesday, March 13, 2013 10:20 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Whimbrel
>
> Oes gen ti fwy o ddisgrifiad o'r peth o gwbl, ac eithrio teclyn gwneud
> rhaffau. Dwi wedi bod yn Gwglo ac yn methu cael hyd i ddim, gyda phob
> cyfeiriad yn son am y 'deryn neu bethau cyfrifiadurol!
>
> Oedd o falla yn cael ei alw'n whimbrel oherwydd ei fod yn debyg i big y
> deryn?
>
>
> Sioned
>
>
> On 13 Mar 2013, at 10:15, Dafydd wrote:
>
>> Ail alwad y bore am yr enw hwn, sef...
>>
>> - whimbrel - nid yr aderyn bigfain ond yn hytrach ...'teclyn pren i wneud
>> rhaffau' yng nghyd-destun cefn gwlad.
>>
>> Diolch eto am bob cymorth, cyd-gyfieithwyryddionynwyr!:-)
|