On 13/03/2013 11:04, Rhian Jones wrote:
> Cyfrol 3 t329 dan 'pren rhaffau'. Ydi mae o'n debyg i feis. Dyma'r
> enwau sydd o dan y llun - pren gwneud rhaffau, pren rhaffau, pren
> troell, pren troi rhaffau + troiwr.
> Rhian
>
> -----Original Message----- From: Dafydd Timothy
> Sent: Wednesday, March 13, 2013 10:51 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Whimbrel
>
> Www! rwan 'te - mae 'na obaith yn fan hyn...
> Ai ar-lein welsoch chi'r llun o'r gyfrol? pa gyfrol o'r 4?!
> Ydi o'n edrych rhywbeth yn debyg i feis fainc ar ei ochr?
>
>
> On 13/03/2013 10:44, Rhian Jones wrote:
>> Does gen i ddim syniad be ydi 'whimbrel' ond 'pren rhaffau' neu 'pren
>> troi rhaffau' ydi enw'r teclyn pren oedd yn cael ei ddefnyddio i droi
>> rhaff wellt. Mae na lun ohono fo yn Cydymaith Byd Amaeth hefyd.
>> Rhian
>>
>> -----Original Message----- From: Sioned Graham-Cameron
>> Sent: Wednesday, March 13, 2013 10:20 AM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Whimbrel
>>
>> Oes gen ti fwy o ddisgrifiad o'r peth o gwbl, ac eithrio teclyn
>> gwneud rhaffau. Dwi wedi bod yn Gwglo ac yn methu cael hyd i ddim,
>> gyda phob cyfeiriad yn son am y 'deryn neu bethau cyfrifiadurol!
>>
>> Oedd o falla yn cael ei alw'n whimbrel oherwydd ei fod yn debyg i big
>> y deryn?
>>
>>
>> Sioned
>>
>>
>> On 13 Mar 2013, at 10:15, Dafydd wrote:
>>
>>> Ail alwad y bore am yr enw hwn, sef...
>>>
>>> - whimbrel - nid yr aderyn bigfain ond yn hytrach ...'teclyn pren i
>>> wneud rhaffau' yng nghyd-destun cefn gwlad.
>>>
>>> Diolch eto am bob cymorth, cyd-gyfieithwyryddionynwyr!:-)
Diolch am y diddordeb a'r drafferth.
|