On Jan 03, 2013, Geraint Lovgreen wrote:
> Hollol dderbyniol, da a dyfeisgar yn fy marn i.
>
> Cyn ebost, doedd yna ddim gair lluosog am 'bost' (yn yr ystyr ohebol) nac am 'mail' yn Saesneg.
>
> Aeth 'emails' Saesneg yn 'ebyst' yn Gymraeg - enghraifft wych o
> fathu organig heb i unrhyw bwyllgor o ieithgwn gwybodus roi eu pig i
> mewn.
Os ydi e'n enghraifft o 'fathu naturiol, organig' pam fod gymaint o
bobl nawr eisiau ei wneud yn 'swyddogol' (mae'r rhestr yma yn
enghraifft berffaith o bwyllgor o ieithgwn gwybodus yn rhoi eu pig i
mewn).
|