Yn fy nhro byddaf yn golygu papur bro'r Goriad, sy'n cynnwys ardal y
Felinheli. Bydd y Cymry eu hunain yn cyfeirio'n aml at "Y Felin" ac
weithiau - gwaetha' modd, ac yn adroddiadau'r tim pel-droed yn arbennig -
dim ond "Felin".
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 30 January 2013 15:32
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Y Felinheli - Saesneg
Dw i'n nabod Saesnes ym Mangor sy'n gyndyn iawn o ddefnyddio'r Gymraeg o
gwbl ond mae hi'n deud 'She lives in Felinheli'
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Jones
Anfonwyd/Sent: 30 Ionawr 2013 15:30
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Y Felinheli - Saesneg
Awgrymws Geraint Lovgreen:
> Yn naturiol, "to Felinheli" fyddai rhywun yn ei ddweud mae'n siwr.
Dwn i ddim: nid Port Dinorwic fyddai debycaf ar lafar yn Saesneg, dal
i fod? (Peth peryg yw drysu rhwng arfer a rheol.)
O ran cywreinrwydd mi edrychais yn llawlyfr Saesneg(*) Cyngor Cymuned
y Felinheli (neu "Cyngor Cymuned Y Felinheli Community Council" fel
mae'n mynnu) ac yn fanno mae engreifftiau fel "If the County
Councillor for Y Felinheli is not a..." gyda'r fannod yn Gymraeg.
_____
*) http://www.felinheli.org/downloads/pdfs/hand_book_eng.pdf
|