Byddai, debyg. O leia mae'n cyfleu'r ystyr yn gywir. Neu beth am 'teclyn dangos/gweld mapiau'?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 26 December 2012 15:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Viewer
Rhywun arall wrth ei ddesg?
Darllen proflenni ac mae'r cyfieithydd wedi defnyddio "teclyn mapiau" am "map viewer".
I mi, mae hyn yn awgrymu'ch bod yn galllu gwneud mwy na dim ond gweld y mapiau ond mae'n swnio'n fwy naturiol na'r rhan fwyaf o'r cynigion a gafwyd yma o'r blaen.
Awgrymwyd "gwyliwr", "edrychydd", "gweliadur" a "gweledydd" mewn trafodaeth o'r blaen ond mae hynny'n swnio fel pe bai'r teclyn yn gwylio/edrych yn hytrach na'i fod yn caniatau i chi wneud hynny. (Ac mae "gwylio" yn awgrymu bod rhywbeth yn digwydd yn hytrach na'ch bod yn edrych ar lun llonydd).
Holodd M. Paul Bryant-Quinn yn y drafodaeth yn 2000 "onid *dangos* y mae'r peiriant?"
Fyddai "dangoswr" yn iawn felly?
Diolch
Siân
|