Ym Mangor, o leiaf, gall "brat" olygu'r hyn a roddir am wddf baban er mwyn arbed ei ddillad wrth geisio'i fwydo, ynteu'r dilledyn a elwir yn "farclod" neu'n "ffedog" ym mannau eraill. Mae "barclod bras" yn farclod/ffedog a wneir o hen sachau blawd, addas ar gyfer gwaith tŷ a fferm. Ni chredaf fod y dillad hyn yr un fath â "pinafore", sef math ar bais allanol.
|