Gwasanaethau cynghori i ffermwyr ydy'r cyd-destun, ac mae'n cyfeirio at wasanaethau fel y rhai oedd y cael eu darparu gan ADAS, neu mewn rhai gwledydd, dosbarthiadau yn trafod pynciau amaethyddol a ddarperir gan brifysgolion mewn lleoliadau cymunedol. Dyma'r frawddeg:
The programme includes an element of traditional agricultural extension advice services.
Mae 'gwasanaethau cyngor amaethyddol traddodiadol' yn swnio'n iawn, ond nid yw'n cynnwys 'extension', sy'n air allweddol ac yn cyfleu elfen 'estyn allan' y ddarpariaeth.
Ydy 'gwasanaethau cyngor amaethyddol traddodiadol yn y maes' yn dderbyniol, neu a oes gormod o bentyrru geiriau yma?
|