Diolch, Mark; 'rwy'n cytuno. Mi ddaeth eich awgrym yn rhy hwyr y tro hwn,
ond 'roeddwn i eisoes wedi newid "ar eu pennau eu hunain" i "unigol". Mi
anfonaf eich sylwadau at glerc y pwyllgor ac efallai y gallai fo gael
cadarnhad, fydd yn help i'r ddau ohonom.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mark Nodine
Sent: 16 October 2012 19:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: single [funding] figures
Sh'mae, Ann.
Na, dim banciwr ydw i ond gwyddonydd cyfrifiaduron. Wedi dweud hynny,
mae'n ymddangos yn debyg iawn imi o'r cyd-destun y mae'r enghraifft
y cynigiais yn taro deuddeg.
--Mark
On 10/12/2012 05:26 AM, Ann Corkett wrote:
> Diolch yn fawr iawn, Mark.
>
> Ga i jyst gadarnhau - ydych chi'n *gwybod* o brofiad mai dyna yw'r ystyr
> (dyna f'argraff), nid dim ond cynnig awgrym?
>
> Mae'n ddrwg gen i ofyn - gallech fod yn fanciwr buddsoddiadau a fuaswn i
> ddim yn gwybod hynny.
>
> Ann
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mark Nodine
> Sent: 11 October 2012 20:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: single [funding] figures
>
> Efallai y bydd enghraifft o gymorth. I mi, mae'r gwahaniaeth fel rhwng
>
> It'll cost you about $4,000.
>
> a
>
> It'll cost you between $3,800 and $4,200.
>
> --Mark
>
> On 10/10/2012 02:54 PM, Ann Corkett wrote:
>> Y cyd-destun ydy cyfarfod ymddiriedolwyr cynllun pensiwn, ac maen nhw
>> wrthi'n trafod y ffordd orau o gyfleu gwybodaeth ynghylch y cynllun i
>> aelodau'r cynllun:
>>
>> "X said that putting ranges of figures in a narrative gave much better
>> context to information than did single figures."
>>
>> Cymerais fod hyn yn golygu "just figures/only figures" gan roi "ffigyrau
>> ar eu pennau eu hunain" (a'r clerc yn cytuno) ... ond dyma'r frawddeg
> nesaf:
>>
>> " Y agreed, saying that it was difficult to understand single funding
>> figures in a situation of economic volatility."
>>
>> Mae hyn yn awgrymu bod "single figures" a "single funding figures" yn
>> golygu rhywbeth mwy cymhleth, ond yr unig "single funding" y gallaf ei
>> weld ar Google ydy math o ariannu i ysgolion.
>>
>> Gwelaf gwpl o gyfeiriadau ar Google at erthygl o'r enw "Single figures
>> for shareholders' funds", ond ni chaiff pawb ei darllen yn llawn (a 'dw
>> i ddim hyd yn oed yn deall y dyfyniadau).
>>
>> Oes 'na unrhyw un yn deall y maes 'ma o gwbl; 'rwy'n dechrau amau y
>> byddwn i'n saffach yn cyfieithu'r cyfan yn llythrennol a'i adael fel 'na!
>>
>> Diolch,
>>
>> Ann
>>
|