On 18/10/2012 11:35, Ann Corkett wrote:
> ‘Dw i didm yn gweld bod modd gwneud llawer nes bod Rhian wedi darganfod
> y cefndir. Biti bod pobl yn gwario ar ymgyrchoedd fel hyn, heb weld
> angen cynnwys y cyfieithydd yn y broses.
>
> Mae’n mynd i fod yn reit anodd cael gair/geiriau sy’n cyfuno’r syniad o
> frisky a risky – rhywbeth yn ymwneud a “mentrus”??? Gyda llaw, oedd
> pawb wedi sylweddoli bod modd chwilio Cysgair gan ddefnyddio, e.e.
> *ntrus, *ionc, mentr*, nwy*, *wyfus i chwilio am gyfuniadau posibl –
> e.e. mae’r canlyniad “nwyddus, pruddglwyfus, gwahanglwyfus” yn codi’r
> posibilrwydd – nwyfus > clwyfus.
>
> Ann
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Carolyn
> *Sent:* 18 October 2012 10:53
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* ATB: [Bulk] Re: frisky
>
> Os ydi Anna'n iawn, mae'n bosib y byddan nhw'n defnyddio
> ffontiau/priflythrennau er mwyn dangos y gair 'Risky'. Neu efallai mai
> ymgyrch sy'n mynd i ddatblygu yw hon ac y byddan nhw'n symud ymlaen o o
> 'Frisky' i 'Risky'?
>
> Carolyn
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Ann Corkett
> *Anfonwyd/Sent:* 18 Hydref 2012 10:50
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: [Bulk] Re: frisky
>
> Mae “sionc” yn gynnig arall gan Bruce, ond os ydy Anna’n iawn, bydd yn
> rhaid cychwyn o’r cychwyn eto, gan y bydd dod o hyd i “clyfrair” addas
> arall yn bwysicach na chyfieithu “frisky”.
>
> Ann
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws
> *Sent:* 17 October 2012 07:03
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: [Bulk] Re: frisky
>
> Nes i ddim meddwl am y chwarae ar eiriau, ond mae’n ddigon posibl. Fe af
> yn ôl i holi.
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd
> *Sent:* 16 October 2012 20:41
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* [Bulk] Re: frisky
>
> Jyst o ran myrrath, be di'r rhesymeg yn tu ol i 'Frisky' yn y cyd-destun
> yma??? Ai clyfrair sy'n cynnwys 'risky' ydi o? Mae 'frisky' i mi yn
> awgrymu'r rheswm ma isio cael prawf HIV ac yn f'annog i neud hynny yn
> hytrach nag yn f'annog i gael prawf.
>
> Anna
>
> 2012/10/16 Rhian Huws <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Ymgyrch o’r enw ‘Frisky Wales’ i annog pobl i gael profion HIV.
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Ann Corkett
> *Sent:* 16 October 2012 19:33
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* Re: frisky
>
> Beth am y cyd-destun?
>
> Ann
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws
> *Sent:* 16 October 2012 18:25
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* frisky
>
> Noswaith dda.
>
> Tybed all rywun helpu. Yng nghyd-destun rhyw, ydi’r gair ‘ffrisgi’ yn
> cael ei ddefnyddio o gwbl? Dw i wedi Gwglo ond heb lwyddiant. Mae’r
> cynigion yn y geiriadur yn fwy sidęt, a does ‘na ru’n yn cyfleu union
> naws y Saesneg rhywsut.
>
> Unrhyw syniadau?
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> Rhian
>
Faswn i'n deud, gan mai teitl ymgyrch ydi o, iddo fod yn well cadw'n
agos at y gwreiddiol Saesneg bachog, yn enwedig o gofio'r ychydig
gefndir a gafwyd amdano
Beth am
Ffrisgi Cymru
gan ein bod yn defnyddio'r gair 'risg' yn Gymraeg ac yn y cyd-destun,
mae'n bosib fod y Saesneg, mae'n ddrwg gen i ddweud, yn awgrymu i mi:
'f.risk wales'!
Maddeued ...
|