Mae yna "Draft Welsh Government Standards for Gravity Foul Sewers and Lateral Drains" sy'n mynd i ddod yn "Welsh Ministers Standards for Gravity Foul Sewers and Lateral Drains" cyn hir.
Mae'r holl gyfeiriadau Cymraeg a wela i ar y we at y rhain yn dweud "... carthffosydd budr disgyrchiant a draeniau ochrol" - hynny yw, maen nhw'n awgrymu nad yw'r "gravity" na'r "foul" yn cyfeirio at y draeniau ochrol.
Ond mae'r Safonau eu hunain (sydd ar gael yn Saesneg yn unig) yn cyfeirio weithiau at "Gravity drains and sewers" ac yn dweud "The minimum size for a gravity foul lateral drain should be 100 mm."
Hynny yw, mae'n ymddangos bod y "foul" a'r "gravity" yn cyfeirio at y draeniau ochrol hefyd.
Hefyd, er mai dim ond "foul" sydd yn y Saesneg, rwy'n teimlo y dylai'r Gymraeg ddweud rhywbeth fel "dŵr budr" neu "carthion budr". Mae "carthffos fudr" yn swnio fel "dirty sewer".
Ond os ydi rhywun yn dweud "Carthffosydd a Draeniau Dŵr Budr" mae'n anodd cael lle taclus i'r "Disgyrchiant" - Efallai y byddai'n rhaid dweud rhywbeth fel "sy'n gweithio trwy Ddisgyrchiant" ac wedyn mae'n mynd yn hir.
Mae fy nghwsmer ar ei gwyliau ar hyn o bryd.
Diolch am unrhyw help.
Siân
|