Gwelsom arwydd ym Mhortiwgaleg, yn ffenestr siop cigydd ym Marchnad St
Helier, Jersey. Cyfieithoedd Bruce rywbeth tebyg i hyn:
"'Dyn ni'n gwerthu cig am bris isel i'n ffrindiau o Bortiwgal"!!
Ann
http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-ly
fraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 12 September 2012 12:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: smoked
Diolch, Ann a Bruce
Bargen i bobl sy'n siarad Cymraeg efallai - dau bysgodyn am bris un!
Siân
On 2012 Medi 12, at 11:17 AM, Ann Corkett wrote:
> Sylwais yng nghaffi Oriel Glyn y Weddw ddydd Sadwrn eu bod nhw'n cynnig
"eog
> wedi'i fygu" a "ciabatta brie a llugaeronen" (sychais yr "en" o'r bwrdd du
> pan nad oedd neb yn edrych). Mae'n debyg y caiff pob pysgodyn a ddelir ei
> fygu, ond nid fel arfer mewn ty bach. Mae "trin cig a^ mwg" yn swnio'n
iawn
> i mi - ac i Bruce hefyd (newydd basio drws y swyddfa). Ond mae'n dweud
nad
> yw cochi'n anghywir ac mai "coch yr wden" oedd yr enw ar "dried meat, such
> as goat's meat, venison, beef" (dan "coch" yn GPC), ac mae'n debyg mai
trwy
> ddefnyddio mwg y byddai rhywun yn sychu'r cig.
>
> Gyda llaw, sylwodd Bruce neithiwr ar siop yn cynnig "pysgod a sglodion" -
> mae'n siwr bod hyn yn gyffredin iawn iawn(yn arbennig ymhlith dysgwyr)
wrth
> feddwl yn Saesneg a pheidio a gwahaniaethu rhwng yr unigol a'r lluosog.
>
> Ann
>
>
http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-ly
> fraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 12 September 2012 10:25
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: smoked
>
> Felly beth sy'n dderbyniol ar gyfer "to smoke" wrth sôn am gig yn
> gyffredinol? Dydi cig ddim yn cochi, nagdi?
>
> "raised area for smoking meat above the fireplace"
>
> "trin cig â mwg"?
>
> Gyda llaw, fe sylwais i neithiwr fod J G Williams yn defnyddio "mygu" yn
> Pigau'r Sêr - "Yr oedd sistem o ffosydd wedi ei thynnu o'r afon ar gyfer
> trapio pysgod, ac fe fyddent yn mygu a chyweirio'r pysgod yn y ty bach i'r
> bobl oedd yn byw yn y Plas Hen."
>
> Diolch
>
> Siân
|