"...(sychais yr "en" o'r bwrdd du pan nad oedd neb yn edrych)."
Da iawn, Ann! Cywiro tanddaearol! ;-)
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 12, 2012 11:17 AM
Subject: Re: smoked
Sylwais yng nghaffi Oriel Glyn y Weddw ddydd Sadwrn eu bod nhw'n cynnig "eog
wedi'i fygu" a "ciabatta brie a llugaeronen" (sychais yr "en" o'r bwrdd du
pan nad oedd neb yn edrych). Mae'n debyg y caiff pob pysgodyn a ddelir ei
fygu, ond nid fel arfer mewn ty bach. Mae "trin cig a^ mwg" yn swnio'n iawn
i mi - ac i Bruce hefyd (newydd basio drws y swyddfa). Ond mae'n dweud nad
yw cochi'n anghywir ac mai "coch yr wden" oedd yr enw ar "dried meat, such
as goat's meat, venison, beef" (dan "coch" yn GPC), ac mae'n debyg mai trwy
ddefnyddio mwg y byddai rhywun yn sychu'r cig.
Gyda llaw, sylwodd Bruce neithiwr ar siop yn cynnig "pysgod a sglodion" -
mae'n siwr bod hyn yn gyffredin iawn iawn(yn arbennig ymhlith dysgwyr) wrth
feddwl yn Saesneg a pheidio a gwahaniaethu rhwng yr unigol a'r lluosog.
Ann
http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-ly
fraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 12 September 2012 10:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: smoked
Felly beth sy'n dderbyniol ar gyfer "to smoke" wrth sôn am gig yn
gyffredinol? Dydi cig ddim yn cochi, nagdi?
"raised area for smoking meat above the fireplace"
"trin cig â mwg"?
Gyda llaw, fe sylwais i neithiwr fod J G Williams yn defnyddio "mygu" yn
Pigau'r Sêr - "Yr oedd sistem o ffosydd wedi ei thynnu o'r afon ar gyfer
trapio pysgod, ac fe fyddent yn mygu a chyweirio'r pysgod yn y ty bach i'r
bobl oedd yn byw yn y Plas Hen."
Diolch
Siân
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2437/5263 - Release Date: 09/11/12
|