Mae mater cyfieithu enwau cyrff wedi codi eto.
Darn yn sôn am "North Wales Training". Fe wnes i gymryd yn ganiataol mai "Hyfforddiant Gogledd Cymru" fyddai'r enw Cymraeg ond meddwl ei bod yn well i mi wneud yn siwr a chanfod, dwi'n meddwl, eu bod yn ddau gorff gwahanol.
Mae gan North Wales Training wefan uniaith Saesneg a swyddfeydd ym Mochdre a Glannau Dyfrdwy:
http://www.nwtraining.co.uk/home.html
A, hyd y gwelaf i, mae gan Hyfforddiant Gogledd Cymru (neu HGC Training) wefan uniaith Saesneg ac mae eu swyddfa nhw yn ardal Llanrwst. Hyfforddiant amaethyddol y maen nhw'n ei roi. http://www.farmwales.co.uk/
On'd oes angen bod yn ofalus?!
Siân
|