Diddorol.
Dwi wastad wedi dilyn y rheol 'un n' ond wedi meddwl erioed bod 'carafanau'
a 'tenis' yn edrych yn chwithig. Dwi'n dychmygu eu deud nhw efo acen y de,
neu acen Rhos. Tase na un 'n', fyddai pobl Rhos yn deud 'tênis'. Fel maen
nhw'n deud 'brênin' am brenin.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Mary Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 07, 2012 9:51 AM
Subject: Re: 'Carafanau' neu 'Carafannau'?
Dydw i ddim yn credu mai mater o 'p'un sy'n iawn' yw hi. Mae'r un ddadl yn
codi gyda 'tenis', sef beth i'w wneud pan fydd y gair yn tarddu o'r Saesneg,
ond bod iddo sw^n dwy 'n'. Yn 'carafan/nau' mae'r cysylltiad a^ 'man' yn fwy
amlwg byth, wrth gwrs.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenda Wallace
Sent: 07 September 2012 09:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 'Carafanau' neu 'Carafannau'?
carafannau yn ol Geraint Lewis yn Geiriadur Gomer i'r Ifanc ac yn ol
Orgraff yr Iaith Gymraeg
2012/9/7 Meinir Thomas <[log in to unmask]>:
> Pa un sy'n gywir os gwelwch chi'n dda? Yn ôl GyA, 'carafanau' sy'n gywir,
ond ar TermCymru, mae enghreifftiau o'r ddau.
>
> Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
>
> Cofion gorau,
>
> Meinir
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Ymchwilydd Ffynonellau/Source Researcher
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5252 - Release Date: 09/06/12
|