On Sep 14, 2012, Neil Shadrach wrote:
>
> A fyddai 'eithrio' yn addas ar gyfer 'escpae'?
> "Mae'r nod arbennig wedi cael ei eithrio", "Eithrio llinyn nodau",
> "Nod eithrio"
Dwi ddim yn siwr achos er fod y nod arbennig yn cael ei eithrio (rhag
ei brosesu) enw ar y weithred ydi hynny yn hytrach na enw'r nod \
Fasen i ddim yn galw \n neu \d yn eithrio neu nodau eithrio a mi
fyddai angen gair gwahanol yn y cyd-destun yna.
Dwi'n sylw fod "nod dianc" wedi ei ddefnyddio yn nghyfieithiadau
Gnome, sy'n llythrennol ond yn gywirach.
Mae'r Ffrangeg yn defnyddio d'echappement (escape yn llythrennol ond
hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer exhaust ceir a mecanwaith cloc)
a'r Almaeneg yn defnyddio 'masg'.
|