Swnio'n syniad ardderchog i fi. Yn y cyfamser, ceisiaf lunio rhestr o'r rhai y gwn i amdanynt.
T
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 29 August 2012 11:30
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: anghysondeb
Oes , dw i'n gwybod a dw i'n cytuno, ond y broblem yw nad pawb yn gyfarwydd â'r 'ystrywiau' hyn a bod hynny wedyn yn creu'r anghysonderau sy'n codi. Efallai y byddai'n syniad i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru drefnu sesiwn hyfforddi ar hyn - mi awgryma i hynny iddyn nhw. Dw i'n siŵr bod gan sawl cyfieithydd ei 'ystrywiau' ei hun i gael gafael ar y dogfennau hyn ac fe allen nhw rannu'r wybodaeth â phobl sy'n llai cyfarwydd â'r gwefannau.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 29 Awst 2012 11:13
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: anghysondeb
Mae nifer o ystrywiau eithaf rhwydd ar gyfer cael hyd i'r testun Cymraeg e.e. newid 'assemblywales' i 'cynulliadcymru' mewn llwybr ffeil. Cytunaf fod dilyn y trywydd yn lletchwith ar y naw weithiau, ond rhaid ei wneud.
T
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 29 August 2012 10:57
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: anghysondeb
Dw i'n meddwl mai'r broblem fawr (os nad yw pobl yn gyfarwydd â gwefan y Llywodraeth a gwefan y Cynulliad) yw dod o hyd i'r dogfennau perthnasol. Os yw'r cyfeiriad yn y ddogfen Saesneg at ffeil pdf, mae'n gallu bod yn anodd dod o hyd i'r fersiwn Gymraeg. Dyna pryd mae pobl yn tueddu i ailgyfieithu teitlau a dyfyniadau dw i'n meddwl. Dw i'n meddwl weithiau tybed a ddylai awduron y dogfennau hyn gynnwys cyfeiriad at ddwy fersiwn y ddogfen wrth ysgrifennu. Mae dod o hyd i deitlau dros 60 a mwy o ddogfennau ar gyfer rhestr gyfeiriadau'n gallu bod yn fwy o draul ar amser cyfieithydd na'r cyfieithu.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 29 Awst 2012 10:50
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: anghysondeb
O ddyfynu dogfen, dylid nodi'n gywir beth sydd ynddi, beth bynnag fod barn rhywun am gywirdeb neu addasrwydd y testun.
T
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 29 August 2012 10:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: anghysondeb
Diolch, Tim
Dyna gadarnhau beth roeddwn i'n meddwl ei wneud.
Pwynt arall!
Mae'r ddogfen dan sylw yn dyfynnu amryw o ddogfennau eraill, heb gynnwys y dyfyniadau mewn dyfynodau e.e.
According to the Procedures, practitioners should:
a) lgkm emfnfg merofn ...
b) ontp dnmbn mendgon ...
c) ,e0gnddd ddeognt ...
Weithiau, dydi'r fersiwn Gymraeg yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddim yn ymddangos yn hollol gywir i mi.
A oes gen i hawl i'w newid - yn enwedig gan nad oes dyfynodau? Un enghraifft rwy newydd sylwi arni - mae'n sôn am blant yn datblygu'n "empowered individuals" ac mae'r Gymraeg swyddogol yn dweud "unigolion grymus" - nad yw'n cyfleu'r un syniad yn union.
Diolch eto
Siân
On 2012 Awst 29, at 9:18 AM, Saunders, Tim wrote:
> Teitl y ddogfen yw teitl y ddogfen, sef 'Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan' - sydd, os gwir y cof, yn cynnwys nifer o weithdrefnau i'w dilyn mewn amgylchiadau penodol. Fe allai fod yn werth nodi fod rhai pobl yn ailgyieithu'r teitl Saesneg, yn hytrach na dilyn beth sydd ar yr wynebddalen.
>
> Ynglŷn a'r 'relationships', unwaith eto fe saif teitl y ddogfen dan sylw fel ag y mae. Er hyn os nad yw rhywun yn dyfynnu, doeth o beth fyddai cyfeirio at yr amrywiaeth o dermau sy'n cael eu harfer - yn yr un ddogfen, ar adegau!
>
> Yn iach,
>
>
> Tim
>
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd Translator
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
> Borough Council
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Sian Roberts
> Sent: 29 August 2012 09:11
> To: [log in to unmask]
> Subject: anghysondeb
>
> All Wales Child Protection Procedures 2008
>
> Gan amlaf, cyfeirir at y rhain fel Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan - mae Google yn dod o hyd i 2140 o enghreifftiau o'r union derm.
>
> Ond y teitl ar y ddogfen ei hunan yw Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
>
> Beth sydd orau i'w wneud wrth gyfeirio at y ddogfen? A ddylid cydnabod bod y ddau enw'n cael eu defnyddio?
>
>
> Hefyd, ar fater tebyg, mae TermCymru'n rhoi "addysg rhyw a
> chydberthynas" (Statws 1) am "sex and relationships education" ond mae
> llawer o ddogfennau yn defnyddio "addysg rhyw a pherthnasoedd" e.e.
> Canllawiau diweddaraf Llywodraeth y Cynulliad - "Addysg Rhyw a
> Pherthnasoedd mewn Ysgolion" (2010)
> http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100908sexedcy.pdf
>
> Rwy'n meddwl y cadwaf i at "perthnasoedd" yn y cyfieithiad am fod yr holl ddyfyniadau etc yn defnyddio "perthnasoedd" yn hytrach na "cydberthynas".
>
>
> Diolch
>
> Siân
|