Dwi ddim yn meddwl bod angen y frawddeg yn y fersiwn Cymraeg o gwbl. Sôn am
gariad neu bartner fysa rhywun yn Gymraeg beth bynnag, heb wahaniaethu ar
sail rhyw, tra bod Saesneg yn fwy tueddol o gyfeirio at boyfriend neu
girlfriend. (Dwi'n cymryd mai awydd i beidio gwahaniaethu ar sail rhyw/
tuedd rywiol sydd yma).
Mae "wejen/sboner/fodan" yn llawer mwy 'slangy' na girlfriend/boyfriend, a
byddai'n darllen fel petaech yn trio stopio pobol siarad mewn slang. Nid
dyna'r bwriad yn y gwreiddiol.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 21, 2012 1:04 PM
Subject: Re: partner
Diolch. Ie, ond falle y byddai'n rhaid dweud "Defnyddiwch y geiriau
"cymar", "partner" neu "cariad" yn lle "wejen/sboner/fodan"" gan fod
"partner" a "cariad" dipyn yn fwy cyffredin ar lawr gwlad. Dw i ddim yn
gwybod a fyddai "cymar" yn taro deuddeg mewn gwaith addysg rhyw "ar y
stryd".
Newydd gofio bod "girlfriend/boyfriend" yn cael eu defnyddio yn gyffredin ym
Mhencader pan o'n i'n fach. "Wejen/sboner" yn cael eu cyfrif damed bach yn
hen ffasiwn / coman efallai. Maen nhw'n swnio'n chwithig iawn i mi erbyn
hyn.
Diolch
Siân
On 2012 Awst 21, at 9:53 AM, Felicity Roberts [afr] wrote:
> Beth am 'cymar'?
>
> Felicity
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 21 August 2012 08:33
> To: [log in to unmask]
> Subject: partner
>
> Darn am addysg rhyw yn y gymuned i'w ddefnyddio ledled Cymru. Sôn am fod
> yn gynhwysol:
>
> "Use the word partner instead of girl or boyfriend."
>
> Ydw i'n dweud "Defnyddiwch y geiriau "partner" neu "cariad" yn lle
> "wejen/sboner/fodan" (oes gair gogleddol am sboner?) - 'ta ydw i'n hepgor
> y frawddeg?
>
> Diolch
>
> Siân
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5212 - Release Date: 08/20/12
|