Tybed a yw rhai wedi penderfynu bod "temporary" a "permanent" yn rhy anodd
i'r werin gaws? 'Rwyf eisoes wedi amau hyn gan weld bod safle Facebook sy'n
dod o hyd i gartrefi i gathod a chwn Ynys Mon yn gofyn yn rheolaidd am
"forever homes".
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 14 August 2012 09:28
To: [log in to unmask]
Subject: "meanwhile uses"
Trafodaeth wedi bod ar Facebook ddoe:
"Sut fyddech chi'n cyfieithu 'meanwhile uses' yng nghyd-destun defnyddio
siop wag ar gyfer rhywbeth 'arall / amgen' (yn aml yn brosiect celf /
cymunedol) hyd nes bod y perchennog yn cael tenant parhaol newydd?"
Oes rhywun wedi dod ar draws y term o'r blaen?
Diolch
Siān
|