Bobl bach, Ann! Chi'n fwy cyfarwydd â beth sy gen i ar y silffoedd yma nag
ydw i fy hun.
Beth bynnag, does dim cyfeiriad at y naill na'r llall yn Place-names of
Glamorgan, Gwynedd O Pierce.
Graham Osborne a Graham Hobbs yw awduron Place-names of Eastern Gwent a
Place-names of Western Gwent. Yn Place-names of Western Gwent, mae yna
gofnod am Griffithstown, ond nid New Inn.
Mae Griffthstown wedi'i enwi, meddir, ar ôl hen orsaf-fesitr, Henry
Griffiths, a ddechreuodd gymdeithas ddarbodus a gododd dai "on land
previously known as Coed-y-gric". Er mai "Coed-y-gric" yw sillafiad y ddau
awdur yn y cofnod ei hun, ar frig y cofnod maen nhw'n gosod y ddwy ffurf
'ddilys' a welson nhw a dyddiadau'r ffynonellau, sef "Coed-y-grigg ycha
(1648)" a "Coed-y-Grick (1766)".
Yn Place Names of Gwent wedyn (Gwasg Carreg Gwlach ISBN 0-86381-956-7) mae
Richard Morgan yn ailadrodd yr wybodaeth yma ac yn ychwanegu'r ffurf
"Coed-y-grug" (1886).
Mae gan Morgan gofnod ar New Inn hefyd: "The location of a Calvinistic
Methodist (later Independent) meeting-house recorded as Y Neuadd c.1751."
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
[log in to unmask]
Sent: 23 Awst 2012 14:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: New Inn a Griffithstown
'Dyn ni i ffwrdd tan nos Sul, felly 'does dim modd i Bruce edrych yn ei
lyfrau.
Ydyn nhw ym Morgannwg? 'Rwy'n gwybod bod rhai yn y cylch (David Bullock?)
yn berchen ar Place-names of Glamorgan, Gwynedd O Pierce.
Dau lyfr arall posibl yw Place-names of Eastern Gwent a Place-names of
Western Gwent - 'dwy Bruce ddim yn cofio enw'r awdur.
Ann
Original Message:
-----------------
From: Sian Roberts [log in to unmask]
Date: Thu, 23 Aug 2012 11:08:44 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: New Inn a Griffithstown
Ger Pont-y-pŵl, ie?
Does dim sôn am y naill na'r llall yn y Gazetteer. Mae'r Dictionary of the
Place-names of Wales yn sôn am Griffithstown ond heb roi enw Cymraeg.
Dydi Enwau Cymru ddim yn rhoi enwau Cymraeg.
Siân
On 2012 Awst 23, at 10:53 AM, Howard Huws wrote:
> Gyfeillion,
>
> Oes yn a enwau Cymraeg ar y mannau hyn?
--------------------------------------------------------------------
mail2web.com – What can On Demand Business Solutions do for you?
http://link.mail2web.com/Business/SharePoint
|