Rwy'n gwybod bod amryw yn hoffi i'r cyfrifiadur eu galw nhw yn "chi" - "Cliciwch yma" - am ei fod yn siarad â llawer o bobl eraill hefyd.
Ond beth ddylwn i alw'r cyfrifiadur?
"Show me features from ..."
Er bod gen i'r parch mwya at fy nghyfrifiadur, byddai "Dangoswch ...." yn swnio'n rhyfedd iawn.
Yn yr achos hwn, mae "Dangos ..." yn taro'n o lew am ei fod yn ferfenw hefyd ond beth os yw'r gorchmynnol unigol a'r ferfenw'n wahanol?
Trio meddwl pa fath o orchmynion fyddai rhywun yn rhoi i'r cyfrifiadur. Rhywbeth â blwch ticio, mae'n siwr - rhywbeth fel:
"Count the sheep"
"Cyfrif y defaid" 'ta "Cyfrifa'r defaid"
Diolch
Siân
|