Diolch am yr awgrymiadau.
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Wednesday, July 11, 2012 1:56 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 5 ways our members shone
Rhywbeth fel
5 FFORDD Y GWNAETH EIN HAELODAU
DDISGLEIRIO
neu ychydig yn fyrrach
5 FFORDD Y BU I'N HAELODAU
DDISGLEIRIO
neu heb y treiglad
5 FFORDD Y MAE'N HAELODAU WEDI
DISGLEIRIO
Cofion
Siān
On 11 Gorff 2012, at 13:51, Gareth Jones wrote:
> Tybed a all rhywun awgrymu rhywbeth ar gyfer yr uchod?
>
> Adroddiad gan glwb ieuenctid ydy'r cyd-destun, ac mae'n cyfeirio at rai o
> uchafbwyntiau digwyddiad diweddar.
>
> Mae'r pennawd wedi'i osod fel hyn:
>
> 5 WAYS OUR MEMBERS
> SHONE
>
> Mae'r gair 'shone' gryn dipyn yn fwy na gweddill y pennawd, i
> bwysleisio'u bod yn aelodau dawnus.
>
> Dwi wedi meddwl am 5 CAMP neu 5 GORCHEST DDISGLAIR EIN HAELODAU ond yn
> ddelfrydol, mae angen gair olaf sy'n cyfleu 'shone'.
>
> Unrhyw awgrymiadau, os gwelwch yn dda?
|