Ie - Ond os nad yw bacteria yn "deor", mae'n siwr nad "deorydd" yw'r
math yma o "incubator".
Diolch i bawb am eu help
Siân
On 31 Gorff 2012, at 14:51, Neil Shadrach wrote:
> http://www.cbac.co.uk/uploads/papers/s11-0243-51.pdf
>
> "Mae’r diagramau’n dangos sut mae bacteria yn gallu cael eu tyfu
> mewn labordy."
> "D: dysgl Petri yn cael ei rhoi mewn deorydd (incubator)"
>
>
> On Tue, 31 Jul 2012 14:39:43 +0100, Ann Corkett
> <[log in to unmask]> wrote:
>
>> Mae "deorydd" (ac amrywiaethau) yn GyrA dan "incubator". Nid yw
>> Bruce yma,
>> imi ofyn a oedd o'n teimlo nad oedd "deori" yn addas ar gyfer
>> bacteria, ond
>> gallaf holi'n nes ymlaen y prynhawn 'ma.
>>
>> O ran sylw Sylvia, er na fyddai eisiau'r bacteria, 'tasen nhw yno,
>> buasai
>> eisiau iddynt dyfu, er mwyn datgelu eu hunain, felly 'dw i ddim yn
>> teimlo
>> bod 'na gymaint o broblem a hynny.
>>
>> Ann
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
>> Sent: 31 July 2012 14:31
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Incubator Room
>>
>> Dallt dim am waith dwr, ond mae 'meithrin' yn cael ei ddefnyddio
>> ym maes
>> bioleg hefyd yntydi - ystafell meithrin bacteria?
>> Rhian
>>
>> O.N. Mae http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/12714.pdf yn rhoi
>> 'deorydd' am 'incubator' yn y cyd-destun yma hefyd.
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Sian Roberts
>> Sent: Tuesday, July 31, 2012 2:03 PM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Incubator Room
>>
>> Mewn gwaith trin dwr mae'r stafell yma. Gofynnais am esboniad:
>>
>> "The incubators 'incubate' petri-dishes and any bacteria present
>> will grow."
>>
>> Yn �l GyrA, y gair am inciwbetio bacteria yw "magu" ond does dim
>> gair yn s�n
>>
>> am facteria o dan "incubator"
>>
>> Fyddai hi'n dderbyniol i osgoi s�n am "incubator" a dweud
>> "ystafell magu
>> bacteria"?
>>
>> Diolch
>>
>> Si�n
|