Dallt dim am waith dwr, ond mae 'meithrin' yn cael ei ddefnyddio ym maes
bioleg hefyd yntydi - ystafell meithrin bacteria?
Rhian
O.N. Mae http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/12714.pdf yn rhoi
'deorydd' am 'incubator' yn y cyd-destun yma hefyd.
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Tuesday, July 31, 2012 2:03 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Incubator Room
Mewn gwaith trin dŵr mae'r stafell yma. Gofynnais am esboniad:
"The incubators 'incubate' petri-dishes and any bacteria present will grow."
Yn ôl GyrA, y gair am inciwbetio bacteria yw "magu" ond does dim gair yn sôn
am facteria o dan "incubator"
Fyddai hi'n dderbyniol i osgoi sôn am "incubator" a dweud "ystafell magu
bacteria"?
Diolch
Siân
|