Dim gofyn am help tro 'ma.
Arwydd mewn siop goffi newydd yng Nghaerdydd, mae'n debyg:
"Gochelwch rhag i ladron bagiau llaw fod ar waith yn yr ardal hon"
Ydi e'n gywir?
"Gochelwch rhag i ladron ddwyn eich bag chi" neu "Gochelwch rhag ofn bod lladron ar waith" Ie?
Ond hyd yn oed os yw e'n gywir, tybed ai siop goffi newydd yng Nghaerdydd yw'r lle ar gyfer "Gochelwch"?!!
Siân
|