Efallai bod y tudlaen isod o ddiddordeb:
http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/1130/regulation/8/made/welsh?view=plain
"(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “offer amddiffyn llygaid” (“protective
eyewear”) yw offer llygaid sy'n ddiogel ac y mae'n briodol eu
defnyddio gyda'r gwely haul ac sy'n amddiffyn llygaid person sy'n
defnyddio'r gwely haul rhag effeithiau bod mewn cysylltiad ag
ymbelydredd a allyrrir gan y gwely haul."
Felly "offer llygaid" yn opsiwn.
2012/6/29 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Sbectolau ac ati?
>
> ----- Original Message -----
> From: Gwen Rice
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, June 29, 2012 9:33 AM
> Subject: Eyewear
>
> Bore da
>
> Oes gan unrhyw un gynnig am y term hwn os gwelwch yn dda? Or' esboniad rwy
> wedi ei gael, mae "eyewear" yn cynnwys: "correction appliances (things that
> help someone to see), be they glasses, contact lenses. safety wear for
> playing squash, prescription specs, swimming goggles etc".
>
> Tybed a fyddai rhywbeth yn seiliedig ar "ategolion" yn gwneud y tro?
>
> Diolch ymlaen llaw am unrhyw gynigion.
>
> Cofion
>
> Gwen
>
|