Mae'n flynyddoedd ers i fi glywed sôn am 'soft charging' a 'hard charging', a dwy ddim yn cofio a oedd yna derm cyfatebol yn Gymraeg, achos mewn trafodaethau Saesneg y clywes i nhw.
Mewn adran o'r Llywodraeth oedd yn cynnwys nifer o isadrannau neu ganghennau, yn yr hen hen ddyddiau byddai'r adran deipio (er enghraifft) yn gweithio i adrannau eraill am ddim, heb godi tâl arnyn nhw o gwbl.
Wedyn daeth yn ffasiynol ceisio torri adrannau gwasanaethu fel adrannau teipio, felly roedd rhaid dangos mor ddrud oedden nhw (drud o'u cymharu â'r sector preifat hynny yw). Roedd yr adrannau hyn wedyn yn gorfod dweud wrth eu "cwsmeriaid" faint oedd cost teipio llythyr neu adroddiad etc, a byddai cyfrifon y corff mawr yn dangos y costau hyn. Doedd dim arian yn newid dwylo, ond roedd rhaid i'r adran deipio "godi" ar eu cwsmeriaid. Pan fyddai gwerth y gwasanaeth yn cael ei gofnodi heb i arian newid dwylo, dyna beth oedd 'soft charging'.
Cam ymlaen o'r sefyllfa honno wedyn fyddai mynnu bod arian yn newid dwylo - sef 'hard charging'.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gareth Evans Jones
Sent: 25 Mehefin 2012 19:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: soft charged
Unrhyw awgrym am soft charged?
------------------------------
On Mon, Jun 25, 2012 6:16 PM BST Geraint Lovgreen wrote:
>Police overheads! bosib iawn!
>
>Pwy sy'n anfon stwff mor fl�r allan i'w gyfieithu tybed.
> ----- Original Message -----
> From: Sioned Graham-Cameron
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, June 25, 2012 2:42 PM
> Subject: Re: soft charged
>
>
> Mae'r frawddeg gyfan yn swnio'n rhyfedd braidd i mi, efo'r "as the department as part of the Ministry of Justice ..."
>
>
> O ran "please overheads", tybed ai wedi camglywed "police overheads" mae rhywun??!
>
>
>
>
> Sioned
>
>
>
>
>
>
> On 25 Jun 2012, at 14:02, Gareth Jones wrote:
>
>
> Tybed a all rhywun (sy�n deall materion cyfrifo yn well na fi) gynorthwyo �r frawddeg hon?
>
> Please overheads were soft charged as a noncash charge in previous years as the department as part of the Ministry of Justice.
>
> Yn gyntaf, wn i ddim be ydy �please overheads�, a dydw i ddim wedi llwyddo i ganfod unrhyw enghreifftiau ohonno. Yr ail derm sy�n achosi anhawster ydy �soft charged�.
>
> Unrhyw awgrymiadau, os gwelwch yn dda?
>
>
>
|