Neu Robin Llywelyn. Neu Guto Bebb, fu'n sgwennu colofn win i Barn. Neu bwy bynnag sy'n gwneud y gwaith hwnnw rwan.
Geraint
On 27 Meh 2012, at 20:48, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
> Soniais wrth Bruce, heb fynd i lawer o fanylion, am eich problemau, a'i sylw
> cyntaf oedd "rwtsh i mewn, rwtsh allan". Nid oes fawr o amynedd ganddo a'r
> ddisgrifiadau hyn o ansawadd gwinoedd, a theimlodd y byddai'n digon da
> cyfieithu'n llythrennol.
>
> Wedyn gofynnais iddo a oedd o'n medru meddwl am unrhyw Gymro - neu unrhyw
> un! - a oedd a digon o ddiddordeb yn y pwnc i fedru egluro'r pethau hyn.
> John Rowlands, y nofelydd, oedd ei awgrym. Wn i ddim a oes neb yn digwydd ei
> 'nabod yn ddigon da i'w holi?
>
> Ann
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
> Sent: 27 June 2012 18:15
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: stony
>
>
> Dyma ran ddisgrifiad o winoedd Bordeaux o'r Hanes Wine Review:
>
> The soil composition of most of the areas where white Bordeaux is grown is
> mostly gravel, clay, limestone and sand, giving the wines a stony, minerally
> profile.
>
> A dyma ddisgrifiadau o winoedd gan gwmni gwin:
>
> Chateau Lafon-Rochet, Saint Estephe: Really detailed, polished wine with
> minerality, pencil and flint aromas. Harmonious would be my best
> description.
>
> Chateau Ormes de Pez, Saint Estephe: Rustic! This is another great
> description for this wine. Stony and powerful!
>
> Chateau Phelan Segur, Saint Estephe: Long finish, stony (as usual) but
> really well balanced. Phelan Segur could be a great potential for the St
> Estephe region.
>
> O weld y cyfeiriadau at 'a minerally profile' a 'minerality' wedi'u cynnwys
> gyda 'stony', a fyddai 'blas mwynol' yn well (ac yn swnio'n fwy deniadol) na
> 'blas fflint'?
>
>
> ------------------------------
> On Wed, Jun 27, 2012 5:54 PM BST Rhian Huws wrote:
>
>> Credu mai r'un peth â 'flinty' falle?
>>
>> Dyma ddiffiniad o hwnnw:
>>
>> taste of some white wines,especially a White Bordeaux. If you can remember
> what flint smells like when struck with steel, you'll have an idea of this
> characteristic.
>>
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
>> Sent: 27 June 2012 17:41
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: stony
>>
>>
>> Na, dydy o ddim yn cyfeirio at enw'r brand. Dyma'r disgrifiad:
>>
>> Chablis Moreau Elegance – Burgundy 2010(1)
> £30.00
>> Fresh and white, crisp and stony. Classical Chardonnay from one of the top
> Chablis makers.
>>
>> ------------------------------
>> On Wed, Jun 27, 2012 5:04 PM BST anna gruffydd wrote:
>>
>>> newydd gwglo - mae na frand o win o'r enw stony wine - tybed ai hwnnw dio?
>>> os felly does dim angen cyfieithu siawns gan mai dyna'r brand - roeddwn
>>> i'n meddwl bod gwin blas cerrig, fel deudais i yn y neges o'r blaen.
>>> braidd yn annhebygol!
>>>
>>> Anna
>>>
>>> 2012/6/27 anna gruffydd <[log in to unmask]>
>>>
>>> Sori, dim awgrym, ond dydi gwin ac arno flas carreg na fflint yn codi
>>> fawr o archwaeth arna i!
>>>
>>> Anna
>>>
>>>
>>> 2012/6/27 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>
>>>
>>>
>>> Disgrifiadau o winoedd ydy'r cyd-destun. Dwi wedi dod ar draws un
>>> cyfieithiad o 'stony' fel 'blas fflint', o restr win Bwyty'r Beuno.
>>> Fel un sydd â fawr o brofiad o win, does gen i ddim syniad beth ydy
>>> 'stony' na 'blas fflint'! A yw 'blas fflint' yn briodol ar gyfer
>>> 'stony', neu a oes gan unrhyw un well awgrym, os gwelwch yn dda?
>>>
>>>
>>>
|