Mae'r fenter "woodfuelWALES" wedi penderfynu cael enw Cymraeg.
Yn y logo, mae'r "wood" yn eithaf tywyll, "fuel" yn oleuach, a
"WALES" yn oleuach wedyn.
Mae hyn yn golygu ei fod yn gweithio yn y Gymraeg, yn fy marn i.
"tanwydd" yn dywyll, "coed" yn oleuach a "CYMRU" yn oleuach wedyn.
Ond pan fydd yr enw'n digwydd mewn testun arferol, mae'n ymddangos
fel "Woodfuel Wales".
Yn fy marn i, dyw "Tanwyddcoed Cymru ddim yn gweithio oherwydd bod
rhywun yn naturiol yn mynd i roi'r acen ar y goben.
Os ydyn nhw am ei gadw'n un gair, rwy'n meddwl y byddai "TanwyddCoed
Cymru" yn well, gan ddilyn y ffasiwn o roi priflythyren ar gyfer ail
elfen gair gwneud fel hyn mewn teitlau.
Y dewis arall yw ysgrifennu "Tanwydd Coed Cymru", ie?
Beth sydd orau?
Diolch
Siān
|