Ydi. ti'n iawn - Dw i'n defnyddio "Annwyl Gyfaill" yn eitha aml -
weithiau ar gyfer "Dear Colleague" pan nad yw "Colleague" yn golygu
"Cydweithiwr" yn ystyr fanwl y gair, neu rywbeth fel "Dear Delegate"
mewn ystyr eitha penagored.
Diolch
On 17 Mai 2012, at 10:04, David Bullock wrote:
> Mae 'Annwyl Gyfaill' (neu 'Annwyl Gyfeillion') yn taro deuddeg yn aml.
>
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
> Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 17 Mai 2012 09:58
> To: [log in to unmask]
> Subject: Dear Resident
>
> Oes gwahaniaeth rhwng "Trigolion" a "Phreswylwyr"?
>
> Llythyr yw hwn at bobl yr ardal.
> Rwy'n tueddu i feddwl am bobl sy'n byw mewn ardal fel trigolion a
> phobl sy'n byw mewn ty/sefydliad fel preswylwyr.
> Oes rhyw sail dros hynny? Mae'r geiriaduron yn awgrymu nad oes!
>
> Mae "Annwyl Breswylydd" yn fy nharo i'n od wrth s�n am ardal ond
> mae "Annwyl Drigolyn" yn odiach!
> "Annwyl Drigolion"?
>
> Si�n
|