Bore da
Oes unrhyw gytundeb tybed ynglŷn â chyfieithu 'press statement', gan gofio mai 'datganiad i'r wasg' yw'r cyfieithiad ar gyfer 'press release'? 'Cyhoeddiad i'r wasg' falle?
Datganiad dewisol yw 'press release' (rhoi gwybodaeth am rywbeth i'r wasg) ond 'press statement' yw datganiad sy'n cael ei gyhoeddi mewn ymateb i ymholiad gan y wasg (fel arfer er mwyn gwadu neu gadarnhau stori/cyhuddiad).
Diolch!
|