Tybed beth yw eich barn am gyfieithu'r frawddeg Saesneg isod:
'Discuss Gareth’s criminal liability, if any, for the death of Angharad.'
Cyfraith Trosedd yw'r maes a daw'r frawddeg o bapur arholiad (felly mae'n bwysig bod myfyrwyr yn deall ergyd y cwestiwn!).
Dyma’r cynigion hyd yn hyn:
1 Trafodwch a ydyw Gareth yn atebol yn droseddol am farwolaeth Angharad.
2 Trafodwch i ba raddau, os o gwbl, y mae Gareth yn atebol yn droseddol am farwolaeth Angharad.
3 Trafodwch atebolrwydd troseddol Gareth am farwolaeth Angharad, os oes atebolrwydd troseddol o gwbl.
4 Trafodwch atebolrwydd troseddol Gareth am farwolaeth Angharad, os yw’n atebol yn droseddol o gwbl.
P'un y byddech chi'n ei ffafrio, a pham?
Diolch.
Owen
|