Mae'n ddrwg gen i nad oedd fy neges yn glir iawn, doeddwn i ddim yn
awgrymu peidio â threiglo enwau cyffredin fel Prifysgol, Llywodraeth,
Bwrdd etc. ond enwau priod. Yn cytuno'n llwyr bod ychwanegu gair fel
cwmni etc. os oes modd, yn swnio'n well, heb sôn am y treiglad.
> Dw i'n meddwl bydd hi'n anodd cynnig rheol, achos gyda llawer o gyrff mi
> fyddwn i'n debyg o dreiglo'u henwau:
>
> Darlithiai ym Mhrifysgol Caerdydd..
> Galwodd ar Lywodraeth Cymru..
> Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg..
> Diolchodd i Gyngor Powys..
>
> Ac er bod y ffin yn anodd ei thynnu, mae'n wahanol pan maen nhw'n fwy o
> 'enwau' (priod) fyddwn i'n dweud, alla i ddim meddwl am lawer o
> engrhefftiau ond mae Gyrfa Cymru yn un. Peidio treiglo fel arfer wedyn.
> Yn aml mae pobl yn ychwanegu enw cyffredin o flaen yr enw priod e.e.
> dweud 'cwyno am archfarchnad Tesco' yn lle 'am Tesco', 'rhodd i elusen
> TÅ· Hafan' ac ati. Dw i'n gwneud hynny'n eitha aml, a dw i'n credu bod
> pobl newyddion Radio Cymru yn gwneud hefyd. Ddim jyst i osgoi treiglad,
> dw i'n teimlo bod dweud 'Bydd cwmni Microsoft' yn lle jyst 'Bydd
> Microsoft' yn swnio'n fwy Cymreig rhywsut.
>
> Dim llawer o help, dim ond dweud, ar sail yr uchod, fyddwn i ddim yn
> awgrymu peidio treiglo enwau sefydliadau o gwbl!
>
> Mae'n rhaid bod rhyw lyfr yn rhywle yn trafod hyn...
>
> Osian
>
>
>
>
>
>
> On 17 April 2012 14:21, Sian Jones <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>
>
> Aaa - dw i wedi drysu'n lan ac yn methu penderfynu - ydan ni'n
> treiglo enwau cyrff/sefydliadau mewn brawddeg - rhywun sy'n dysgu
> Cymraeg sy wedi gofyn fy nghyngor - eisiau un rheol i weithio a hi.
> Faswn i ddim fel arfer yn treiglo e.e. Rhoi'r wybodaeth i Gyrfa
> Cymru - baswn yn ei dreiglo wrth siarad ond faswn i dim yn tueddu
> sgwennu 'i Yrfa Cymru' - ond beth sy'n gywir?
>
> Diolch,
>
> Sian
>
>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|