Newydd weld bod fy neges i yn cytuno efo Sylvia heb gyrraedd y cylch.
Mae 'niwrolawfeddygaeth' neu 'lawfeddygaeth niwrolegol' ill dau'n gwneud y
tro'n iawn.
Dwi'n tueddu i feddwl bod cynnig Dafydd yn fwy o lond ceg!
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 19, 2012 5:05 AM
Subject: Re: neurosurgery
Fyddai 'llawfeddygaeth niwrolegol' yn swnio'n well?
Dafydd
On Wed, 18 Apr 2012 09:22:44 +0100, Carolyn
<[log in to unmask]> wrote:
>Mae Term Cymru yn rhoi 'niwrolawdriniaeth' am neurosurgery (y maes). Dw i'n
>tueddu i feddwl mai 'operation' yw ystyr llawdriniaeth' h.y. - llawfeddyg
>yn
>trin claf. Mae GYM yn rhoi 'llawfeddygaeth' am y maes a fyddwn i'n cytuno,
>ond gan nad oes cyfeiriad o gwbl at 'niwrolawfeddygaeth' yn Term Cymru, dw
>i'n dechrau amau fy hun. Fasa rhywun yn gallu cadarnhau mai 'llawfeddygaeth
>sy'n iawn am 'surgery' wrth gyfeirio at y maes a llawdriniaeth wrth
>gyfeirio
>at 'operation'?
>
>
>
>Diolch
>
>Carolyn
>
>
|