Diolch am eich ymateb.
Rwy'n cytuno â'r sylwadau a gafwyd hyd yma ynghylch cywirdeb 'anodd meddwl' (yn lle 'anodd i feddwl' sydd dan ddylanwad y Saesneg, debygwn i). Ond tybed nad oes rhywbeth arall ar waith pan welwn ni frawddeg fel hyn gan Gymreigiwr penigamp:
"Daeth dathlu coffadwriaeth Goronwy yn un o brif amcanion bywyd Matthew, nid bod hynny'n beth anodd i'w wneud yn y gymdeithas y trôi ef ynddi." Dafydd Glyn Jones, Un o Wŷr y Medra (Gwasg Gee, 1999), t. 120.
Ystyriwn y brawddegau canlynol:
1 Mae'n anodd gwneud hynny.
2 Mae'n anodd ei wneud ef.
3 Ond prin y gellid dweud: 'Mae hynny'n beth anodd ei wneud ef.' Yr 'ef' olaf sy'n rhegi, wrth gwrs. Byddai rhai'n cynnig 'Mae hynny'n beth anodd ei wneud' ac eraill 'Mae hynny'n beth anodd i'w wneud' (fel y gwna Dafydd Glyn).
Felly ai'r un swyddogaeth sydd i'r berfenw yn 2 a 3? Neu a oes rheswm arall?
Owen
|