Haha, da!
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 05, 2012 10:21 PM
Subject: Re: without prejudice
Mae'n werth talu am eglurdeb! Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd
"without prejudice". Dwi'n gwybod nawr!
Pan ddechreuais i weithio i'r Herald, roedd y gohebwyr lleol yn cael
eu talu fesul llinell. Roedd un yn enwog am fod yn hirwyntog:
"Cyfarfu Mrs Jemima Jane Jones (a adwaenir gan ei ffrindiau oll fel
Jini) â damwain wrth fynd o gwmpas ei gorchwylion beunyddiol yn ei
chartref, Hyfrydle, 1 Pen y Bryn, a darfu iddi dorri asgwrn yn ei
choes mewn dau le. Ymuna ei llu cyfeillion yn y pentref a'r fro i
ddymuno gwellhad llwyr a buan iddi."
Doedd e ddim yn hapus pan ddaeth golygydd newydd a mynnu ei gwtogi i:
"Mae Jini Jones, Hyfrydle wedi torri ei choes. Gwellhad buan iddi."
On 5 Apr 2012, at 18:47, Geraint Lovgreen wrote:
> Waw - wyt ti'n cael dy dalu fesul gair? ;-)
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, April 05, 2012 4:10 PM
> Subject: Re: without prejudice
>
>
> Ar ôl trafod gyda'r cwsmer, penderfynwyd fel hyn:
>
> "... all correspondence and discussions are conducted entirely on a
> without prejudice basis."
> "... mae’r holl ohebiaeth a thrafodaethau’n cael eu cynnal heb unrhyw
> ymrwymiad (sy'n golygu na ellir eu defnyddio’n dystiolaeth mewn llys heb
> ganiatâd y naill ochr a’r llall)."
>
> Diolch
>
> Siân
|