Geraint
Wyt ti ddim yn euog o 'imperialaeth ieithyddol'' (!) wrth geisio
'mynnu' bod gan y Gymraeg ansoddair sy'n cyfateb i ansoddair Saesneg
...?
Yn y frawddeg a roddaist ti gynnau, fe allet ti fod wedi dweud ' tocyn
- un ar wahân - i Wil'. Wnaiff y patrwm hwnnw ddim gweithio bob amser,
wrth reswm, ac os felly bydd rhaid ystyried rhyw 'ystryw' arall.
Fel y bydde'r diweddar Moc Rogers yn dweud, 'Pe na bai'r probleme
'ma'n codi, fydde 'na ddim gwaith i ni!'
Berwyn
2012/3/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Ocê, doedd hi ddim yn enghraifft dda.
>
> Yn syml, be dwi'n chwilio amdano ydi ansoddair i gyfleu "separate".
>
> ----- Original Message -----
> From: Sian Roberts
> To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, March 22, 2012 11:06 AM
> Subject: Re: ar wahân
>
> Fyse "rhoi tocyn o'r neilltu i Wil" yn gweithio?
>
> Siân
> On 22 Mawrth 2012, at 10:42, Geraint Lovgreen wrote:
>
> Helo,
>
> Dwi wastad yn cael trafferth efo "ar wahân" yn yr ystyr separate (h.y. fel
> ansoddair)
>
> Os ydw i'n deud fy mod i'n cadw tocyn ar wahân i Wil, mae hynny i fi yn
> darllen fel "a ticket apart from Wil" neu "other than Wil" (dydi hwn ddim yn
> enghraifft arbennig o dda, ond...)
>
> Dwi isio deud "tocyn ar-wahân i Wil" efo cysylltnod, i ddangos mai ansoddair
> ydi'r "ar wahân" yma ac nid ymadrodd. Oes yna rywbeth o'i le ar roi
> "ar-wahân" yn y cyswllt yma? Mae ynganiad y ddau yn sicr yn wahanol.
>
> Mi fedrwn ddeud "tocyn gwahanol", ond dydi'r tocyn ddim yn wahanol i'r
> lleill, neu "neilltuol", ond does dim byd neilltuol amdano!
>
> Help!
>
> Geraint
>
>
|