Newydd siarad â'r person oedd yn gyfrifol am y cynnwys gwreiddiol nawr ac wedi cael caniatâd i ddefnyddio'r cyfieithiad a gynigiais yn wreiddiol (heb y termau Saesneg mewn cromfachau).
Yn amlwg fe fyddai'n dda cael termau safonol am y ddau ystyr, ond yn yr achos yma mae'r ddau le yr wyf fel rheol yn mynd i edrych am dermau o'r fath - TermCymru a'r Porth Termau - yn gwrth-ddweud ei gilydd mor llwyr fel ei bod yn anodd iawn gwybod pa rai i'w dewis.
Iwan
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 27 Mawrth 2012 03:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence
Dyna mae'r termau yn ei olygu Iwan, ac rwyn cydweld ei bod yn anodd dewis termau Cymraeg sy'n gwahanu rhyngddynt.
Yn bersonol byddaf yn tueddu cymryd bod 'mynychder' yn golygu 'faint mor fynych' ydyw rhywbeth sydd eisoes yn bodoli, ond efallai y dylid defnyddio'r ffurf a gynigaist ar y cychwyn.
Fodd bynnag, mi fyddai'n ddefnyddiol cael termau safonol am y ddau ystyr rhyw dro, wrth eu bod mor sylfaenol.
Dafydd
Subject:
ATB/RE: Incidence a prevalence
From:
"Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)" <[log in to unmask]>
Reply-To:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date:
Mon, 26 Mar 2012 09:10:51 +0100
Content-Type:
text/plain
Parts/Attachments:
text/plain (1 lines)
Reply
Dwi'n gyndyn i ddefnyddio 'mynychder' am y naill derm na'r llall gan bod cymaint o amwysedd ynglŷn â pha un mae'n ei olygu - mae'n golygu 'incidence' yn ôl TermCymru a'r llyfr 'Termau Meddygol', 'prevalence' yn ôl y Porth Termau, a'r ddau yn ôl Geiriadur yr Academi! 'Nifer achosion' sydd ar TermCymru am 'prevalence' ond fe allai hwnnw hefyd olygu'r naill neu'r llall, ac ar ôl darllen yr esboniad ar wefan yr RCN fe fydden i'n meddwl efallai bod hwnnw'n agosach at 'incidence'. Oes rhywun â chefndir meddygol neu ystadegol a all gadarnhau fy mod wedi deall yr ystyron yn gywir?
Iwan
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 24 Mawrth 2012 03:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence
Rwy'n cydweld ag Iwan ond mi fyddwn i'n defnyddio 'mynychder' am 'prevalence:
Yn wahanol i’r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae’r galw am wasanaethau ‘Meddygaeth Arennol’ yn dibynnu ar fynychder clefydau arennol yn hytrach na’r nifer o achosion newydd.
Dafydd
On Fri, 23 Mar 2012 16:16:05 +0000, Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services) <[log in to unmask]> wrote:
>O beth alla i ei ddeall, mae'r frawddeg yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:
>
>Yn wahanol i'r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae'r galw am wasanaethau 'Meddygaeth Arennol' yn dibynnu ar y nifer o bobl sydd eisoes yn dioddef o glefydau arennol ar unrhyw adeg, yn hytrach na'r nifer o achosion newydd sy'n codi.
>
>Dwi'n meddwl bod hynna'n weddol agos at gyfleu'r ystyr, ond mae e mor bell oddi wrth y geiriad yn y Saesneg fel fy mod yn gyndyn braidd i'w alw'n gyfieithiad.
>
>Iwan
>
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
>Sent: 23 Mawrth 2012 16:05
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: Incidence a prevalence
>
>Nid yw Bruce yn ymwybodol o unrhyw fwriad y tu ol i'r gwahaniaeth sillafu. O edrych yn GPC, ceir "mynychder" a "mynychdra" yn unig (nid y fersiynau gyda "t").
>
>Mae'n swnio fel un o'r achlysuron 'na lle nad yw'r Gymraeg wedi gorfod gwahaniaethu mor fanwl o'r blaen.
>
>Gallaf ddeall y disgrifiad o'r wefan - jyst abowt - ond hyd yn oed wedyn ni allaf ddeall y frawddeg sydd gennych yn dda iawn. 'Tasech chi'n medru ei hegluro i mi mewn geiriau eraill, efallai byddech hanner ffordd at gyfieithiad (hyd yn oed os bydd angen rhoi'r geiriau Saesneg mewn cromfachau).
>
>Ann
>________________________________
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
>Sent: 23 March 2012 14:57
>To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
>Subject: Incidence a prevalence
>
>Oes geiriau Cymraeg gwahanol yn cael eu harddel am y ddau derm meddygol yma? Dwi'n meddwl fy mod i'n deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau (gweler y link isod) ond ddim yn gwybod lle i ddechrau gyda dewis geiriau Cymraeg cyfatebol. Mae 'mynychder' yng Ngeiriadur yr Academi ar gyfer y ddau ohonynt, ond gyda sillafiad gwahanol (yw hyn yn fwriadol?).
>
>Tra 'mod i wrthi beth yw 'Established Renal Failure' hefyd - mae'r cyfan yn digwydd yn yr un frawddeg erchyll isod :
>
>In contrast to the majority of hospital services, managing a 'Renal Medicine' service is driven by prevalence (of Established Renal Failure) rather than incidence of disease.
>
>Mae eglurhad da iawn o'r gwahaniaeth rhwng y ddau i'w weld yma: http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf
>
>Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,
>
>Iwan
>
>
|