cyfuno dau air - cwympo'n ddiymadferth?
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 19, 2012 10:55 AM
Subject: collapse
Rwy'n cyfieithu llyfryn i'r cyhoedd yn sôn am afiechydon y galon - trawiad
ar y galon/methiant y galon. Mae darn am gymorth cynta yn dweud "What to do
if someone collapses".
Wela i ddim byd addas yn y geiriaduron am "collapse":
GyrA: cwympo, syrthio, disgyn, ... (of person): llewygu, mynd i lewyg, N:
cael gwasgfa, S:occ: cael haint, pango (of patient): diffygio, gwanhau
Porth Termau: ymgwympo
Dwi'm yn ddigon siwr beth yn union yw cael "gwasgfa" (Gog.) ac, ar bapur,
byddai "cael haint" yn swnio fel cael "infection".
Rwy'n sylwi bod y newyddion yn dweud mai "llewygu" wnaeth y peldroediwr dydd
Sadwrn - ond i mi "faint" yw "llewygu" - When you faint, you will feel weak
and unsteady before passing out for a short period of time, usually only a
few seconds...
Fyddai "cwympo'n anymwybodol" yn cyfleu'r ystyr? - dwi ddim yn siwr oes raid
i chi fod yn anymwybodol, chwaith
"Colapsio", am wn i, fyddai'n cyfleu'r ystyr gliriaf i bobl. Ie?
Diolch
Siân
|