On Mar 15, 2012, Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services) wrote:
> Mae rhywun newydd ddod i mewn i'r swyddfa a gofyn os oedden i wedi clywed am y term 'Dragonization', gan honni bod rhywun wedi dweud wrtho mai dyna'r term swyddogol newydd am Gymreigio gwasanaethau. Rydw i'n ei chael hi braidd yn anodd i gredu hynny, ond a oes unrhyw un ohonoch erioed wedi clywed s?n am y fath derm o'r blaen? Ac os ydyw'n derm sydd yn cael ei ddefnyddio, sut goblyn mae mynd ati i'w gyfieithu i'r Gymraeg??
O gwglo, mae'n edrych fel term cafodd ei ddefnyddio mewn un papur
academaidd yn 2009 a wedyn cwpl o bapurau arall yn cyfeirio ato.
(addasu gwasanaethau llywodraeth ganolog ar gyfer anghenion Cymru)
Efallai byddai 'Cymreigio' yn addas ond i fi mae hynny yn golygu
addasu ar gyfer iaith yn hytrach na Cymru fel gwlad.
|