Dw i wedi clywed "mynd allan ohoni" yn Nhrefor hefyd am lewygu yn
ogystal â pheidio â bod yn eich iawn bwyll.
Siân
On 19 Mawrth 2012, at 11:24, Meinir Pierce Jones wrote:
> Byddai fy nhad yn dweud 'cael gwasgfa' am 'faint'.
>
> Meinir
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, March 19, 2012 10:55 AM
> Subject: collapse
>
>
> Rwy'n cyfieithu llyfryn i'r cyhoedd yn sôn am afiechydon y galon -
> trawiad ar y galon/methiant y galon. Mae darn am gymorth cynta yn
> dweud "What to do if someone collapses".
>
> Wela i ddim byd addas yn y geiriaduron am "collapse":
> GyrA: cwympo, syrthio, disgyn, ... (of person): llewygu, mynd i
> lewyg, N: cael gwasgfa, S:occ: cael haint, pango (of patient):
> diffygio, gwanhau
> Porth Termau: ymgwympo
>
> Dwi'm yn ddigon siwr beth yn union yw cael "gwasgfa" (Gog.) ac, ar
> bapur, byddai "cael haint" yn swnio fel cael "infection".
>
> Rwy'n sylwi bod y newyddion yn dweud mai "llewygu" wnaeth y
> peldroediwr dydd Sadwrn - ond i mi "faint" yw "llewygu" - When you
> faint, you will feel weak and unsteady before passing out for a
> short period of time, usually only a few seconds...
>
> Fyddai "cwympo'n anymwybodol" yn cyfleu'r ystyr? - dwi ddim yn siwr
> oes raid i chi fod yn anymwybodol, chwaith
>
> "Colapsio", am wn i, fyddai'n cyfleu'r ystyr gliriaf i bobl. Ie?
>
> Diolch
>
> Siân
|