Dw i'n siŵr dy fod ti'n iawn David - dw i'n cofio rhywun yn dweud bod 'gorsaf' yn air rhyfedd iawn i'w ddefnyddio ar gyfer gorsaf bŵer gan nad oedd a wnelo'r math hwnnw o orsaf ddim byd â 'sefyll' ond doedd hynny erioed wedi nharo i.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 09 Mawrth 2012 14:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB/RE: import / export
Byddwch chi wedi 'nghlywed i'n dweud bod rhoi tanwydd (sef coed tân yn ôl ei
darddiad) mewn car yn swnio'n rhyfedd hefyd. Ond fyddai'r rhan fwya o bobl
ddim yn gallu dadansoddi'r gair fel hyn, a dwi ddim yn credu y gwelen nhw
fod 'môr' yn rhan o 'fewnforio' chwaith.
Y tro yma, dwi ddim yn dadlau o blaid nac yn erbyn ffurf benodol, dim ond
ceisio dweud mai nifer fach ohonon ni sy'n ymwybodol o'r tarddiad weithiau
ac felly nad yw'r tarddiad bob amser yn atal ffurf rhag ennill ei phlwyf.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn
Sent: 09 Mawrth 2012 13:24
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: import / export
Dw i'n cofio cael trafodaeth am 'fewnforio' wrth gyfieithu meddalwedd -
mae'n cael ei ddefnyddio'n aml iawn am 'import a file' ond mae'n swnio'n
rhyfedd iawn i mi pan nad oes môr yn agos! Fasa'n bosib dweud 'symud/cludo
i' a symud/cludo o' ar gyfer y tail?
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 09 Mawrth 2012 09:10
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: import / export
Diolch Eurwyn
Ddaeth y rhain o ryw eirfa 'ta chi wnaeth eu bathu nhw?
Siân
On 9 Mawrth 2012, at 08:16, Eurwyn Pierce Jones wrote:
> mewnsymud / mewngludo / mewngario (ac) allsymud / allgludo /
> allgario
>
> Eurwyn
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Sian Roberts
> Sent: 08 March 2012 22:37
> To: [log in to unmask]
> Subject: import / export
>
> Ydyn ni'n dweud "mewnforio" ac "allforio" am "import" / "export"
> wrth sôn am
> symud tail ceffylau o'r naill fferm i'r llall?
>
> Diolch
>
> Siân
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.1913 / Virus Database: 2114/4859 - Release Date: 03/08/12
|