Sgrialu - beth sy'n bod ar 'sglefrfyrddio', dyna beth mae fy mab i'n
ei wneud (weithiau).
On 13/02/2012, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
> Fe sylwais i ar arwydd ym Mhwllheli dydd Sadwrn, "Dim sgrialu / No
> skateboarding" ac mae llawer o sôn wedi bod yn y newyddion am "stelcian" =
> "stalking".
>
> Mae'r ddau derm yma'n swnio'n chwithig i mi am fod "sgrialu" a "stelcian"
> eisoes yn eiriau cyffredin sy'n cael eu defnyddio mewn ystyr wahanol.
>
> Mae sgrialu'n golygu rhuthro'n wyllt a stelcian yn ferf gyflawn sy'n golygu
> loetran. Dwi'n gwybod bod llawer o eiriau'n golygu mwy nag un peth ond
> mae'n swnio'n rhyfedd i fenthyca geiriau i'w defnyddio am rywbeth mor
> benodol.
>
> Allwch chi stelcian rhywun? Fe holais i hynny mewn lle arall ac atebodd
> rhywun nad oedd yn gyfarwydd â'r ystyr "sefyllian yn ddiamcan" yn dweud bod
> "stelcian rhywun" yn swnio'n iawn iddo fe.
>
> Teimlo'n well nawr!
>
> Siân
>
|