Os ydych yn Gwglo "National Cycle Museum", rydych yn cael yr URL www.cyclemuseum.org.uk/ sy'n mynd â chi i wefan y "National Cycle Collection" (nid Museum). Does dim gair o Gymraeg ar y wefan am y casgliad sydd yn yr Automobile Palace, Llandrindod. (Wedi symud o rywle fel Lincoln rai blynyddoedd yn ôl mae'n debyg)
Dydi hi ddim yn ymddangos bod enw Cymraeg swyddogol am yr Amgueddfa/Casgliad ond mae 'na wahanol gynigion i'w gweld ar y we. Yr un mwyaf cyffredin yw "Casgliad Beiciau Cenedlaethol Prydain Fawr" ar wefan Casglu'r Tlysau.
Ai dilyn hwnnw sydd saffa?
Diolch
Siân
|