Efallai bod rhywun yn gwybod yn well, ond sylwaf fod y ddolen ar
http://www.plantyngnghymru.org.uk/policy/documents/guidancecircularsandstand
ards/9466.html ("Fe ellir lawrlwytho’r safonau oddi ar wefan Cyngor
Cenedlaethol y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol") yn arwain at wefan gwbl
Saesneg.
Ceir hyn ar wefan Coleg y Drindod ayb. Mae'n debyg ei fod yn gyfieithiad
o'r SUMMARY FUNCTIONAL MAP FOR YOUTH WORK sy'n rhan o'r ddogfen:
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: Gwaith Ieuenctid
1 Hwyluso datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifainc:
1.1 Hwyluso dysg a datblygiad pobl ifainc drwy waith ieuenctid.
1.2 Cynllunio a gweithredu gweithgareddau dysgu mewn gwaith ieuenctid.
1.3 Hybu hunanymwybyddiaeth, hyder a chyfranogiad pobl ifainc.
1.4 Hybu mynediad i wybodaeth a chefnogaeth.
2 Hybu cydraddoldeb a diddordebau a lles pobl ifainc
2.1 Gweithio gyda phobl ifainc i hybu eu hawliau.
2.2 Diogelu iechyd a lles pobl ifainc.
2.3 Hybu cydraddoldeb a gwerth amrywiaeth.
2.4 Cyflawni gofynion rheoliadol a chyfundrefnol.
3 Gweithio gydag eraill:
3.1 Ymgysylltu â phobl ifainc.
3.2 Ymgysylltu â’r gymuned leol.
3.3 Meithrin perthynas waith a rhwydweithiau gwaith.
4 Datblygu strategaeth ac arfer gwaith ieuenctid
4.1 Sefydlu a blaenoriaethu gofynion gwaith ieuenctid.
4.2 Cynllunio a gweithredu strategaeth gwaith ieuenctid.
4.3 Hwyluso newid.
4.4 Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd strategaeth a chynlluniau gwaith
ieuenctid.
5 Arwain a rheoli timau ac unigolion:
5.1 Rheoli eich hunan.
5.2 Arwain a rheoli pobl eraill.
5.3 Datblygu cydweithwyr.
5.4 Cynnal iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Ceir y diagram ei hun, ac ychydig yn rhagor dan "Crynodeb o’r Safonau
Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid" yma :
www.thankssam.org.uk/Resources/Resource_Pack_Appendices_C.pdf
Mae hyn i gyd yn awgrymu i mi NAD oes cyfieithiad llawn yn unman, ac 'rwyf
wedi Gwglo'r ymadroddion Cymraeg heb dod o hyd iddynt mewn dogfen, ond mi
allwn i fod yn anghywir.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 22 February 2012 18:12
To: [log in to unmask]
Subject: National Occupational Standards for Youth Work
Dwi wedi bod yn chwilio ar-lein am fersiwn Gymraeg o'r uchod, ond heb
lwyddiant hyd yn hyn.
A oes unrhyw un wedi dod ar draws fersiwn Gymraeg?
|