Ie - mae "sglefrfyrddio" yn dipyn o lond ceg ond o leia mae'r ystyr
yn glir!
Heb y Saesneg, byddai "Dim sgrialu" yn golygu "Dim rhuthro"!
Siân
On 13 Chwef 2012, at 09:53, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> Sgrialu - beth sy'n bod ar 'sglefrfyrddio', dyna beth mae fy mab i'n
> ei wneud (weithiau).
>
> On 13/02/2012, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>> Fe sylwais i ar arwydd ym Mhwllheli dydd Sadwrn, "Dim sgrialu / No
>> skateboarding" ac mae llawer o sôn wedi bod yn y newyddion am
>> "stelcian" =
>> "stalking".
>>
>> Mae'r ddau derm yma'n swnio'n chwithig i mi am fod "sgrialu" a
>> "stelcian"
>> eisoes yn eiriau cyffredin sy'n cael eu defnyddio mewn ystyr wahanol.
>>
>> Mae sgrialu'n golygu rhuthro'n wyllt a stelcian yn ferf gyflawn
>> sy'n golygu
>> loetran. Dwi'n gwybod bod llawer o eiriau'n golygu mwy nag un
>> peth ond
>> mae'n swnio'n rhyfedd i fenthyca geiriau i'w defnyddio am rywbeth mor
>> benodol.
>>
>> Allwch chi stelcian rhywun? Fe holais i hynny mewn lle arall ac
>> atebodd
>> rhywun nad oedd yn gyfarwydd â'r ystyr "sefyllian yn ddiamcan" yn
>> dweud bod
>> "stelcian rhywun" yn swnio'n iawn iddo fe.
>>
>> Teimlo'n well nawr!
>>
>> Siân
>>
|