Fe sylwais i ar arwydd ym Mhwllheli dydd Sadwrn, "Dim sgrialu / No skateboarding" ac mae llawer o sôn wedi bod yn y newyddion am "stelcian" = "stalking".
Mae'r ddau derm yma'n swnio'n chwithig i mi am fod "sgrialu" a "stelcian" eisoes yn eiriau cyffredin sy'n cael eu defnyddio mewn ystyr wahanol.
Mae sgrialu'n golygu rhuthro'n wyllt a stelcian yn ferf gyflawn sy'n golygu loetran. Dwi'n gwybod bod llawer o eiriau'n golygu mwy nag un peth ond mae'n swnio'n rhyfedd i fenthyca geiriau i'w defnyddio am rywbeth mor benodol.
Allwch chi stelcian rhywun? Fe holais i hynny mewn lle arall ac atebodd rhywun nad oedd yn gyfarwydd â'r ystyr "sefyllian yn ddiamcan" yn dweud bod "stelcian rhywun" yn swnio'n iawn iddo fe.
Teimlo'n well nawr!
Siân
|